Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd


Lleoliad:

Fideogynhadledd drwy Zoom

Dyddiad: Dydd Mawrth, 12 Ionawr 2021

Amser: 09. - 10.03
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
11069


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau o’r Senedd:

Janet Finch-Saunders AS (Cadeirydd)

Jack Sargeant AS

Leanne Wood AS

Tystion:

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc)

Sian Giddins (Dirprwy Glerc)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

Cafwyd ymddiheuriadau gan Michelle Brown AS. 

 

</AI1>

<AI2>

2       Deisebau newydd COVID-19

</AI2>

<AI3>

2.1   P-05-1050 Ei gwneud yn ofynnol i’r Senedd gynnal pleidlais i gymeradwyo cyfyngiadau lleol cyn eu gweithredu

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros i glywed barn bellach gan y deisebydd.

 

Cytunwyd hefyd pan fydd y ddeiseb yn cael ei thrafod eto y bydd yn cael ei hystyried ochr yn ochr â'r ddeiseb P-05-1104 Dylid gwneud i unrhyw gamau sy’n cael eu cyflwyno o ran Covid-19 fod yn destun pleidlais yn Senedd Cymru yn y dyfodol.

 

 

</AI3>

<AI4>

2.2   P-05-1052 Rhowch godiad cyflog i nyrsys yn unol â’r hyn a roddir i staff rheng flaen eraill yn ystod pandemig COVID-19

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd ei fod yn cefnogi’r ddeiseb, yn ogystal â’r ffaith ei bod yn ymddangos bod Corff Adolygu Cyflogau’r GIG yn debygol o adrodd ar ei argymhellion ddechrau mis Mai.  Cytunodd y Pwyllgor i groesawu’r ffaith bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gofyn i’r adolygiad cyflog gael ei ddwyn ymlaen ac ysgrifennu yn ôl ato i ofyn iddo gymryd unrhyw fesurau sydd ar agor iddo yn y cyfamser gan gynnwys, er enghraifft, ystyried a all ymrwymo i ôl-ddyddio unrhyw ddyfarniad cyflog i ddechrau’r pandemig.

</AI4>

<AI5>

2.3   P-05-1075 Peidiwch â gosod terfyn o 15 person ar weithgareddau dan do wedi'u trefnu – fel gwersi nofio a dosbarthiadau ffitrwydd – ar ôl y cyfnod atal byr

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i ofyn i Lywodraeth Cymru ddatblygu pecyn o adnoddau a gwybodaeth i gynorthwyo unigolion i gael mynediad at ymarfer corff diogel ac addas wrth lynu at gyfyngiadau Covid-19.

</AI5>

<AI6>

2.4   P-05-1087 Rhowch derfyn ar ynysu torfol gan blant ysgol iach!

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am sylwadau pellach gan y deisebydd ar yr ymateb a ddarparwyd gan y Gweinidog, cyn penderfynu a ellid cymryd camau pellach ynglŷn â'r ddeiseb.

</AI6>

<AI7>

2.5   P-05-1080 Cyflwyno deunyddiau dysgu gwrth-hiliaeth i blant mewn ysgolion yng Nghymru i leihau troseddau casineb

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

·         grwpio’r ddeiseb gyda deiseb P-05-1000 Ei gwneud yn orfodol i hanesion pobl dduon a POC y DU gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru, a’u hystyried gyda’i gilydd yn y dyfodol;

·         aros am sylwadau pellach gan y deisebydd i’r ymateb i’r ddeiseb a roddwyd gan y Gweinidog Addysg; ac

·         ysgrifennu at Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth i ofyn iddynt am wybodaeth bellach am eu gwaith mewn perthynas â hiliaeth a’r system addysg yng Nghymru y cyfeirir ati yn adroddiad Hiliaeth yng Nghymru? a gofyn am eu barn ar y materion a nodwyd yn y ddeiseb hon a P-05-1000.

</AI7>

<AI8>

2.6   P-05-1084 Dysgwch blant Cymru am sut y gwnaeth Cymru wladychu Patagonia

Trafodwyd y ddeiseb hon gyda P-05-1098 Dylai rôl Cymru yn hanes trefedigaethol Prydain fod yn bwnc gorfodol mewn ysgolion.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am sylwadau pellach gan y deisebwyr cyn penderfynu a ellid gwneud gwaith pellach ynglŷn â’r deisebau.

 

 

</AI8>

<AI9>

2.7   P-05-1098 Dylai rôl Cymru yn hanes trefedigaethol Prydain fod yn bwnc gorfodol mewn ysgolion.

Trafodwyd y ddeiseb hon gyda deiseb P-05-1084 Dysgwch blant Cymru am sut y gwnaeth Cymru wladychu Patagonia.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am sylwadau pellach gan y deisebwyr cyn penderfynu a ellid gwneud gwaith pellach ynglŷn â’r deisebau.

 

 

</AI9>

<AI10>

2.8   P-05-1086 Dylid creu Amgueddfa Genedlaethol ar gyfer Hanes a Threftadaeth Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb gan y deisebydd i’r wybodaeth a ddarparwyd gan y Dirprwy Weinidog a grwpio’r ddeiseb gyda deiseb P-05-1073 Sefydlu ac adeiladu cangen newydd o Amgueddfa Cymru sy'n canolbwyntio ar ran Cymru mewn trefedigaethedd, a’u hystyried gyda’i gilydd yn y dyfodol.

</AI10>

<AI11>

2.9   P-05-1081 Sicrhau bod perchnogion ail gartrefi a thai gwyliau ar rent yng Nghymru yn pleidleisio yn eu prif gyfeiriad yn unig, mewn etholiadau datganoledig a lleol.

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Comisiwn Etholiadol i ofyn am eu barn ar y ddeiseb a’r materion a nodwyd gan y deisebwyr, gan gynnwys esboniad llawnach o'r ‘meini prawf preswylio’ penodol y dylid eu defnyddio gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol ac i ba raddau y mae hyn yn cael ei fonitro a’i orfodi ar hyn o bryd.

</AI11>

<AI12>

3       Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

</AI12>

<AI13>

3.1   P-05-920 Cyllidebu Ysgolion ar gyfer ADY

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan y Gweinidog Addysg. Yn sgil sawl ymateb clir gan y Gweinidog nad yw cyllid i awdurdodau lleol ddarparu gwasanaethau addysg yn eu hardaloedd yn cael ei neilltuo, mae’r adolygiad diweddar o gyllid ysgolion a’r gwaith monitro arfaethedig o weithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb ar y pwynt hwn a diolch i’r deisebydd.

</AI13>

<AI14>

3.2   P-05-972 Dylid darparu o leiaf bedair awr y dydd o addysg fyw i bob disgybl tra bod ysgolion ar gau oherwydd COVID-19

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a ddaeth i law ac, yn sgil gwaith craffu parhaus ar fynediad i addysg tra bod ysgolion wedi cau sy’n cael ei gynnal gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

</AI14>

<AI15>

3.3   P-05-1033 Dylid diddymu ffioedd cofrestru Cyngor y Gweithlu Addysg (EWC) a diwygio ei drefniant yn llwyr

Nododd y Pwyllgor fod y deisebydd yn anfodlon â’r ymatebion a ddaeth i law o ran y ddeiseb. Fodd bynnag, yn sgil y wybodaeth a ddaeth i law a’r ymateb blaenorol gan y Gweinidog Addysg, cytunodd y Pwyllgor nad oedd llawer o gamau y gallai eu cymryd mewn cysylltiad â’r ddeiseb ar hyn o bryd. Felly, cytunodd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

</AI15>

<AI16>

3.4   P-05-963 Dylid ei gwneud yn ofynnol i archfarchnadoedd roi unrhyw fwyd sydd dros ben i elusennau

Ailadroddodd y Pwyllgor ei fod yn cefnogi’r ddeiseb. Yn sgil y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn ceisio pwerau trwy Fil Amgylchedd y DU a fyddai’n ei galluogi i fynnu bod bwyd dros ben yn cael ei ailddosbarthu, a’r ffaith bod y Bil hwnnw’n mynd trwy Senedd y DU ar hyn o bryd, cytunodd y Pwyllgor nad oedd unrhyw beth pellach y gallai wneud ar y mater ar hyn o bryd. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

</AI16>

<AI17>

3.5   P-05-1010 Ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn 2020 fel bod gwersi yn cael eu dysgu

Trafododd y Pwyllgor y materion a nodwyd mewn dadl ddiweddar yn y Cyfarfod Llawn a’r ohebiaeth bellach a ddaeth i law gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at:

·         y Gweinidog Addysg i ofyn am ymateb i’r cwestiynau y mae’r deisebydd yn eu gofyn ynghylch yr hyn y bydd yr adroddiadau presennol sy’n cael eu llunio yn ei ddarparu; a

·         Cyfoeth Naturiol Cymru i ofyn am ei ymateb i’r ddeiseb, y wybodaeth bellach a ddaeth i law hyd yma a’i farn ar y rôl bosibl y gallai ymchwiliad annibynnol ei chwarae.

</AI17>

<AI18>

3.6   P-05-964 Dylid ymestyn absenoldeb â thâl a chymorth ariannol a ddarperir mewn ymateb i Covid-19 i staff cronfa GIG Cymru sy’n agored i niwed a staff sy’n feichiog

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn iddo ystyried cyhoeddi cyfathrebiadau clir i Fyrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd y dylid cefnogi gweithwyr cronfa y GIG, sydd wedi gweithio sifftiau rheolaidd ond nad ydynt yn gallu gwneud hynny ar hyn o bryd oherwydd beichiogrwydd neu fregusrwydd clinigol, yn ariannol yn ystod yr amgylchiadau presennol.

</AI18>

<AI19>

3.7   P-05-1035 Dylid caniatáu i bartneriaid genedigaeth fod yn bresennol adeg sganiau, dechrau esgor, yn ystod yr enedigaeth ac ar ôl yr enedigaeth.

Trafododd y Pwyllgor y materion a nodwyd mewn dadl ddiweddar yn y Cyfarfod Llawn ar y pwnc hwn a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i:

</AI19>

<AI20>

3.8   P-05-1013 Rhowch gymorth ariannol i unigolion hunangyflogedig yn niwydiant cerddoriaeth fyw Cymru

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd i:

·      ysgrifennu’n ôl at y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i fynegi pryderon am y diffyg cefnogaeth ar gael ar hyn o bryd i unigolion hunangyflogedig yn y sector cerddoriaeth fyw a gofyn am roi ystyriaeth frys i sut y gall y gefnogaeth a ddarperir trwy'r Gronfa Llawrydd gynyddu i wneud iawn yn well am ddiffyg incwm oherwydd y pandemig a’r cyfyngiadau cysylltiedig;

·      gofyn am eglurhad ynghylch a oedd cyhoeddiad diweddar gan y Canghellor yn nodi unrhyw newidiadau yn y gefnogaeth sydd ar gael i unigolion hunangyflogedig yn y sector cerddoriaeth fyw;

·      aros am ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad 5 adroddiad diweddar y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar effaith Covid-19 ar y celfyddydau.

</AI20>

<AI21>

3.9   P-05-1027 Caniatáu clybiau pêl-droed domestig Cymru i chwarae gemau cyfeillgar, a chaniatáu cefnogwyr i fynd i’r gemau

Datganodd Jack Sargeant AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae’n aelod o fwrdd clwb pêl-droed yng Nghymru.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd, yn sgil y cynnydd yn lefel rhybudd coronafeirws i lefel 4, i gadw golwg fanwl ar y ddeiseb.

</AI21>

<AI22>

3.10P-05-1037 Caniatáu i blant fynd i mewn i ardaloedd dan gyfyngiadau symud i barhau i hyfforddi gyda'u clybiau chwaraeon

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd, yn sgil y ffaith bod y cyfyngiadau rhybudd lefel 4 Coronafeirws presennol yn gwahardd gweithgareddau o’r fath ar hyn o bryd, i gadw golwg fanwl ar y ddeiseb.

</AI22>

<AI23>

3.11P-05-1099 Peidiwch â chau’r Sector Lletygarwch (Tafarndai, Bwytai, Caffis) heb ddangos tystiolaeth wyddonol.

Trafodwyd y ddeiseb hon ar y cyd â'r ddeiseb P-05-1100 Caniatáu i dafarndai a bwytai yng Nghymru weini alcohol / aros ar agor ar ôl 6pm

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd, o gofio bod cyfyngiadau lefel rhybudd 4 Coronafeirws ar waith ledled Cymru a bod y materion a nodir yn y ddeiseb wedi cael eu trafod yn y Cyfarfod Llawn ar sawl achlysur, bod digwyddiadau dilynol wedi dal i fyny â’r deisebau bellach ac nad oedd llawer o gamau pellach y gellid eu cymryd ar hyn o bryd. Felly, cytunodd y Pwyllgor i gau’r deisebau a diolch i’r deisebwyr.

</AI23>

<AI24>

3.12P-05-1100 Caniatáu i dafarndai a bwytai yng Nghymru weini alcohol / aros ar agor ar ôl 6pm

Trafodwyd y ddeiseb hon ar y cyd â’r ddeiseb P-05-1099 Peidiwch â chau’r Sector Lletygarwch (Tafarndai, Bwytai, Caffis) heb ddangos tystiolaeth wyddonol

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd, o gofio bod cyfyngiadau lefel rhybudd 4 Coronafeirws ar waith ledled Cymru a bod y materion a nodir yn y ddeiseb wedi cael eu trafod yn y Cyfarfod Llawn ar sawl achlysur, bod digwyddiadau dilynol wedi dal i fyny â’r deisebau bellach ac nad oedd llawer o gamau pellach y gellid eu cymryd ar hyn o bryd. Felly, cytunodd y Pwyllgor i gau’r deisebau a diolch i’r deisebwyr.

</AI24>

<AI25>

3.13P-05-1036 Caniatáu swigod cefnogaeth yn ystod y cyfyngiadau symud

Trafododd y Pwyllgor y rheolau cyfredol ar ffurfio swigod cefnogaeth. Nododd yr Aelodau, yn lefelau rhybuddio 3 a 4, y caniateir i aelwydydd ag oedolyn sengl ymuno ag aelwyd arall ond na fyddai hyn yn galluogi cyplau i allu mynd i mewn i gartrefi ei gilydd ym mhob amgylchiad. Fodd bynnag, o ystyried y sefyllfa, cytunodd y Pwyllgor nad oedd unrhyw waith pellach y gallai ei wneud ar y mater hwn ar hyn o bryd a chaeodd y ddeiseb.

</AI25>

<AI26>

3.14P-05-826 Mae sir Benfro yn dweud NA!! i gau adran damweiniau ac achosion brys Llwynhelyg!

Nododd y Pwyllgor nad oedd unrhyw ohebiaeth wedi dod i law gan y deisebydd a chytunodd i gau’r ddeiseb yn sgil hynny.

</AI26>

<AI27>

3.15P-05-947 Dylai llythyrau meddygon teulu fod am ddim i fyfyrwyr

Nododd y Pwyllgor nad oedd unrhyw ohebiaeth wedi dod i law gan y deisebydd a chytunodd i gau’r ddeiseb yn sgil hynny.

</AI27>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>